Rheolau ReMaths
Ailadrodd. Cofio. Canlyniadau!

Mae ReMaths hefyd ar gael yn Saesneg! Cliciwch y botwm isod i newid iaith:

Ap adolgu a dysgu syml, effeithio a rhwyd i’w ddefnyddio yw ReMaths. Mae’n cynnwys yr holl reolau sydd angen arnoch chi ar gyfer maths: Bl. 6, 11+, 13+ a TGAU (Sylfaen ac Uwch).

Image of a generic smartphone-like device

Cefnogi ReMaths

Rhedir ReMaths gan Sue, brwdfrydig dros Fathemateg gydol ei hoes. Os ydy ReMaths wedi bod o ddefnydd i chi, neu wedi helpu’ch plant, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad o ran costau cynnal a thalu am ddiweddariadau.

Fel gydag unrhyw gêm, os nad ydych yn gwybod y rheolau, ellwch chi ddim chwarae’r gêm. Mae Maths fel chwarae gêm. Gwybod y rheolau, chwarae’r gêm.

Crëwyd ReMaths gan ddefnyddio arluniau symleiddiedig o reolau allweddol mathemategol sy wedi’u treial a phrofi gan fyfyrwyr diri yn y gorffennol, gyda chanlyniadau gwych.

Rhennir ReMaths mewn pedwar grŵp. Dewiswch y grŵp sydd yn cyfateb orau i’ch safon addysg, yna dechreuwch sweipio drwy’r rheolau. Does dim angen treulio llawer o amser ar bob rheol, jyst digon fel y gall y wybodaeth ymsefydlu yn eich meddwl, yna symudwch ymlaen i’r un nesa. Po fwya y gwnewch chi hyn, mwya hawdd y bydd cofio’r rheolau’n dod.

Bydd ReMaths yn cyfri’r nifer o weithiau dych chi’n cyflawni grŵp. Profwch faint o weithiau y gellwch gylchu drwy pob rheol mewn grŵp. Mae i bob grŵp dudalen cynnwys, rhag ofn bod angen arnoch chi ddod o hyd i reol benodol.

Efallai y byddwch yn datblygu’ch ffordd eich hun o ddefnyddio’r ap i gynorthwyo gyda dysgu maths, ond ta waeth, fel gydag unrhyw sgil, ailadrodd yw’r allwedd.

Fe wnaeth rheolau ReMaths Sue alluogi fy merch i fynd yn uwch na phob disgwyl yn ei chanlyniad TGAU Mathemateg. I blentyn gyda dyscalciwlia mae’r rheolau’n darparu strwythur effeithiol y gellir adeiladu hyder a dysgu llwyddiannol arno – byddwn yn cymeradwyo’r ap o galon.

-- Rhiant hapus

Gweler isod gasgliad o fideos gan Sue, awdures ReMaths.


Diolchiadau Sue

Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i Henry Young, datblygydd yr ap a’r safle gwe, am ei amynedd, cefnogaeth a chyfarwyddyd, yn ogystal â datblygiad ymarferol yr ap ac addasu’r cyfan ar gyfer anghenion Google ac Apple.

Rwy’n ddiolchgar i Gwenno Henley am gynhyrchu’r graffegau diddiwedd, delio â fy ngofynion anhylaw a dyluniadau llawysgrifenedig.

Hoffwn ddiolch i George Stovell am gychwyn y graffegau, golygu fy ngeiriau ysgrifenedig a fideos, am ei ddoethineb a dyfalwch gyda manylion y gwaith dylunio, ac am fy nghadw’n ddi-stres ar y ffordd iawn

Diolch i Tim Durham am y gwaith ffilmio – mae angen ffrind i wneud hyn!

Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr sgiliau Dylunio Graffegol ardderchog Arthur Stovell wrth iddo gynhyrchu logo ReMaths, ac rwy’n ddiolchgar iddo am ei gyngor yn gyffredinol.

Rwy i’n ddiolchgar i Eirian Stovell am ei brwdfrydedd a’i chyfraniad tuag at fasnachu rheolau ReMaths.

Mawr yw’r dyled sydd arnaf i Shaun Lindbergh am yr ysbrydoliaeth a motifyddiaeth a gefais ganddo wrth gychwyn y broses o greu ap ReMaths, ac am fy nghadw ar y ffordd iawn ac yn amyneddgar gyda’i eiriau cefnogol a doeth.

Rwy’n ddiochgar iawn i Grace a Clem Wells am eu camp cyfieithu. Hefyd i Gareth King am roi cefnogaeth wych wrth gyfieithu safle ReMaths.

Ac i’m holl ddisgyblion y treialwyd a phrofwyd y rheolau hyn arnyn nhw dros flynyddoedd llawer – diolch am ymddiried yn fy nulliau dysgu ac am brofi i mi eu bod nhw’n effiethiol.

Eisiau cysylltu?

Os oes gennych chi adborth inni, neu pe hoffech chi drafod sut y gellir defnyddio ReMaths i helpu’ch dysgwyr, cysylltwch â ni drwy gyfryngau cymdeithasol @remathsrules os gwelwch yn dda.