Rheolau ReMaths
Ailadrodd. Cofio. Canlyniadau!
Safle Gwe ReMaths
Mae Safle Gwe ReMaths yn defnyddio Swetrix fel prif blatfform dadansoddeg, oherwydd ei ymrwymiad i barchu preifatrwydd defnyddwyr.
Sut mae Swetrix yn parchu fy mhreifatrwydd?
Yn ôl eu dogfennaeth, tra bod Swetrix yn nodi cyfeiriadau IP ymwelwyr ac asiantau defnyddwyr ar lefel gweinydd, dim ond am 30 munud y mae’r data yn cael eu storio cyn iddo gael eu dileu’n llwyr o’u cofnodion. Dyw’r gwasanaeth ddim yn defnyddio cwcis, ac ni fydd eich taith drwy ein safle’n cael ei dilyn os ydych wedi dewis opsiwn Do Not Track ar eich porydd.
Drwy Swetrix mae data unrhyw ymwelydd yn gwbl anhysbys inni; y cwbl sydd gennym yw cofnod o’r ffaith fod rhywun wedi ymweld â thudalen penodol.
Dyma’r wybodaeth y gallwn ni ei gweld:
- Pa dudalen yr ymwelwyd ag e (enw prif dudalen yn unig)
- O asiant defnyddiwr
- Enw porydd a fersiwn
- Maint dyfais (ffôn symudol / tabled / gliniadur/ cyfrifiadur)
- Enw’r system weithredu
- O gyfeiriad IP
- Gwlad
Ap ReMaths
Dan ni ddim yn casglu unrhyw ddata defnyddiwr o’r ap hwn ac eithrio’r hyn a ddarparwyd fel data dadansoddol drwy’r siop apiau y cafodd yr ap ei lawrlwytho. Mae’r data hwn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, y nifer o weithiau y lawrlwythir ap, o ba wlad y lawrlwythwyd, pa ddyfeisiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y lawrlwytho, a’r System Weithredu y mae’r dyfais yn ei rhedeg. Mae’r wybodaeth hon yn breifat i berchnogion ReMaths a’r nifer fach o unigolion sydd â chyfrifoldeb am greu, cynnal a masnachu’r ap yn unig; caiff ei ddefnyddio i wella’r ap a dylanwadu datlygiad apiau pellach neu ddyfodol.
O bryd i’w gilydd efallai y bydd angen arnon ni ddiweddaru’r Bolisi Breifatrwydd hon. Bydd nodyn o unrhyw ddiweddariad felly yn ymddangos yn nisgrifiad yr ap yn yr App Store (ar gyfer iOS) a Google Play Store (ar gyfer Android). Chi fydd â’r cyfrifoldeb i sicrhau eich bod chi wedi darllen y fersiwn ddiweddaraf.
Rhestrir isod ganiatadau sydd angen ar gyfer platfformau penodol.
